Ffôn: 01248 370242
Triniaeth
YMWELIAD CYNTAF A THRINIAETH
Ar ddechrau archwiliad rydym yn cymryd hanes llawn yr achos. Os gawsoch archwiliadau Pelydr-X neu sgan, fe fyddai’n ddefnyddiol iawn pe baech yn dod â chopi o unrhyw adroddiadau gan eich meddyg teulu. Fe ofynnir i chi dynnu eich dillad mewn preifatrwydd ac i wisgo gŵn. Gwneir archwiliad corfforol llawn. Fe fydd hyn yn cynnwys rhai profion orthopedig a niwrolegol ond y prif reswm yw i deimlo sut mae’r esgyrn a’r cyhyrau’n symud.
Bydd y Ceiropractydd wedyn yn esbonio beth i’w ddisgwyl yn ystod eich cwrs o driniaeth. Bydd hyn nid yn unig yn cynnwys beth fydd o’n ei wneud, ond hefyd beth fydd yn rhaid i chi wneud i helpu eich adferiad.
Mae’r ail driniaeth rhwng 3-7 diwrnod ar ôl y gyntaf, ac fel y byddwch yn gwella bydd triniaethau yn llai aml. I’r gwrthwyneb, os fyddwch yn gwaethygu, byddwch yn derbyn triniaeth yn fwy aml. Fel arfer mae’n bum cam ymlaen ac un yn ôl. Fel arfer fe fydd y boen yn diflannu mewn llai na deg triniaeth. Mae’n anhebygol na fydd unrhyw wellhad, ond os nad oes, cynhelir adolygiad ar ôl pedwar triniaeth. Efallai bod anhwylder anarferol neu cymhleth arnoch sydd yn ymddangos fel rhywbeth syml. Bydd yr adolygiad yn penderfynu a oes angen rhagor o driniaeth arnoch neu archwiliad Pelydr-X neu os oes angen gweld meddyg neu arbennigwr arall arnoch.
Unwaith y bydd y boen wedi diflannu, bydd yna gyfres o archwiliadau bob rhyw ychydig fisoedd er mwyn sicrhau nad yw’r broblem yn dychwelyd. Unwaith y mae’r gwellhad yn gynaliadwy yn y tymor hir, fe’ch rhoddir ar alwad.
Erbyn hynny fe fyddwch yn gwybod pryd i ddychwelyd am driniaeth pe bai’r angen yn codi.
Athroniaeth y clinig yw i’ch gweld mor aml ag sydd ei angen ond cyn lleied â phosib.