Ffôn: 01248 370242


Cwestiynau

A YW CEIROPRACTEG I MI?
Os ydych yn ansicr y gall Ceiropracteg eich helpu, mae archwiliadau am ddim ar gael. Mae’n rhoi cyfle i’r Ceiropractydd eich archwilio tra eich bod chi’n cael cyfle i brofi ef a’r clinig. Bydd y Ceiropractydd yn dweud wrthoch pa fath o broblem sydd ganddoch a pha fath o driniaeth i’w ddisgwyl. Nid diagnosis ffurfiol yw hyn ond barn broffesiynol. Cewch benderfynu wedyn os a sut ydych am barhau.

OES YNA UNRHYW SGIL-EFFEITHIAU?
Weithiau mae yna wayw am 2 neu 3 diwrnod ar ôl triniaeth. Gellir lleihau hyn dryw roi bag o rew neu bys wedi eu rhewi mewn lliain sychu llestri a’i osod dros yr ardal gafodd ei drin. Os nad yw’r boen wedi gwella mewn 2 neu 3 diwrnod, ffoniwch y clinig.

YDI CEIROPRACTEG YN DDIOGEL?
Mae llawer llai o risgiau gyda Ceiropracteg na gyda nifer o driniaethau eraill i’ch cyflwr. Mae sgil effeithiau difrifol yn hynod o anarferol. Mewn achosion prin iawn mae trin y gwddw wedi cael ei gysylltu gyda strôc, ond fe ddengys ymchwil bod Ceiropracteg yn un o’r triniaethau mwyaf diogel ac effeithiol ar gael.

BETH YW’R GWAHANIAETH RHWNG CEIROPRACTEG AC OSTEOPATHI?
Mae nhw 90% yr un fath. Mae Ceiropractyddion fel arfer yn gweld pobl yn fwy aml ar ddechrau cwrs o driniaeth. Mae llawer o driniaethau Ceiropracteg ac Osteopathi yr un fath.
Lle mae ‘na wahaniaeth, dywedir fod Ceiropracteg yn fwy ‘cadarnhaol’.

HYFFORDDIANT CEIROPRACTEG
Sefydlwyd Coleg Eingl-Ewropeaidd Ceiropracteg ym 1963. I ddechrau roedd yn cynnig diploma mewn Ceiropracteg ac ers 1992 mae’n cynnig graddau sy’n cael eu cydnabod drwy’r byd.

Mae’r cwrs nid yn unig yn cynnwys sut i adnabod a thrin problemau yn yr asgwrn cefn ond hefyd meddygaeth cyffredinol (anatomeg, ffisioleg a phatholeg). Mae’n bwysig bod Ceiropractyddion yn gallu adnabod anhwylderau meddygol nad ydynt yn gymwys i’w trin, ac yn gallu disgrifio’r broblem i feddygon teulu ac arbennigwyr mewn ffurf sy’n ddealladwy iddynt. Mae datblygu parhaus proffesiynol yn orfodol. Mae hyn yn cynnwys cyhadleddau, seminarau, rhaglenni astudio ac ymchwil. Mae’n bwysig i Geiropractyddion gadw i fyny efo’r datblygiadau diweddaraf.