Ffôn: 01248 370242


Beth yw Ceiropracteg?

Mae Ceiropracteg dros ganrif oed ac fe gyrhaeddodd Prydain yn y 1920au. Gwyddor gwella iechyd yr asgwrn cefn a’r ffordd y mae’n symud ydi Ceiropracteg. Gwneir hyn wrth deimlo sut mae’r asgwrn cefn a’r cyhyrau yn symud. Os oes yna ardaloedd o symudiad anghywir, rhyddheir rhain gan ddefnyddio llawdriniad, tylino a chyngor ynglŷn â ffordd o fyw.

Mae symudiad anghywir yn yr asgwrn cefn yn gallu digwydd yn dilyn damweiniau, disgyn, geni plentyn, camsefyll dros amser hir ac anlwc pur. Fe achosa hyn i’r gewynnau llidio a chreu poen. Mewn achosion mwy difrifol gall nerf gael ei drapio, gan achosi poenau i lawr y fraich neu’r goes. Os na chaiff ei drin am flynyddoedd gall hyn greu cryd cymalau.

Mae adfer symudiad cywir yn cael gwared ar boenau, rhyddhau nerfau a lleihau problemau hir dymor.