Ffôn: 01248 370242


Amdanom

Graddiodd Steve Mack Smith o Goleg Ceiropracteg Eingl-Ewropeaidd Bournemouth ym 1990. Yn dilyn blwyddyn ôl-radd ger Norwich, agorodd y clinig ym Mangor ym 1992. Ymunodd â’r Gymdeithas Ceiropracteg Brydeinig ar ôl graddio er mwyn parhau efo’i astudiaethau ôl-radd. Fe ymunodd hefyd â’r Undeb Ceiropracteg Ewropeaidd. Ym 1994, pasiwyd y Ddeddf Ceiropracteg a sefydlwyd y Cyngor Ceiropracteg Cyffredinol er mwyn arolygu’r proffesiwn ac i sicrhau bod safonau’n cael eu cynnal a buddiannau cleifion eu gwarchod. Mae bod yn aelod o’r CCC yn orfodol i bob ceiropractydd. Yn ddiweddarach sefydlwyd Coleg y Ceiropractyddion, er mwyn trefnu Datblygiad Proffesiynol Parhaus ac er mwyn gwneud gwaith ymchwil ac hefyd yr Academi Ceiropracteg Ewropeaidd. Mae Steve yn aelod o bob un o’r cyrff yma, yn ogystal â bod yn aelod broffesiynol o’r elusen Backcare.

Diddordeb pennaf Steve ydi hyrwyddo’r proffesiwn trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, ac annog mwy o siaradwyr Cymraeg i hyfforddi fel ceiropractyddion. Ddeng mlynedd yn ôl sefydlwyd cwrs ym Mhrifysgol Morgannwg. Er bod Ceiropractyddion yn trin yr asgwrn cefn gan amlaf, mae Steve yn arbenigo mewn trin esgyrn y breichiau a’r coesau.

Ers 1995 mae Steve wedi bod yn cynnal cwrs ar gyfer graddedigion Ceiropracteg yng Ngogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr.

Yn 2007 fe ddaeth yn aelod BCA o ARMA er mwyn hyrwyddo gwasanaethau cyhyr-ysgerbydol yng Ngwynedd. Yn 2008 fe ymunodd â TEAMS fel aelod academaidd. Mae TEAMS yn grŵp o Ymgynghorwyr, Meddygon Teulu a Ffisiotherapyddion (a rwan Ceiropractydd!) sydd â diddordeb mewn trin poen cefn.

Mae Steve ar gael i roi sgyrsiau yn Gymraeg neu Saesneg i’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol.